Datganiad hygyrchedd ar gyfer Talu eich dirwy llys neu orchymyn cynhaliaeth

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i’r gwasanaeth Talu eich dirwy llys neu orchymyn cynhaliaeth. Mae’r gwasanaeth yn cychwyn ar ôl ichi glicio ar y botwm ‘Cychwyn nawr’ ar y dudalen Talu dirwy llys ar wefan gov.uk

Mae’r gwasanaeth yn darparu ffordd i dalu eich dirwy llys neu’ch gorchymyn cynhaliaeth ar-lein. Mae’r taliad ei hun yn cael ei wneud a’i drin yn ddiogel gan Barclaycard.

Y Weinyddiaeth Gyfiawnder sy’n gyfrifol am y wefan hon. Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, golyga hyn y dylech allu:

  • newid maint testun heb dechnoleg gynorthwyol hyd at 200% heb golli unrhyw gynnwys neu swyddogaethau
  • gwneud y testun hyd at 300% yn fwy heb iddo ddiflannu oddi ar y sgrin
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi sicrhau ein bod wedi defnyddio iaith syml ar y wefan.

Mae gan AbilityNet gyngor ynghylch gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon

 

Gwyddwn nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • nid yw’r dudalen lle’r ydych yn nodi manylion eich cerdyn (Barclaycard PDQ) yn gweithio gyda rhai mathau o feddalwedd adnabod llais. Mae’n gweithio gydag Internet Explorer a Google Chrome, gan ddefnyddio fersiwn 15 o’r feddalwedd adnabod llais Dragon
  • mae enghreifftiau o gyferbyniad gwael o liwiau trwy gydol y ffurflen
  • nid yw penawdau a labeli sy’n disgrifio’r pwnc neu bwrpas yn gyson ac efallai ni fyddant yn caniatáu i ddarllenwyr sgrin fod yn eglur
  • efallai ni fydd modd darllen y gwasanaeth yn dda os yw’r gwasanaeth mewn iaith arall

Riportio problemau hygyrchedd gyda'r wefan hon

Rydym wastad yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon.

Os byddwch yn canfod unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u cynnwys ar y dudalen hon, neu’n credu nad ydym yn bodloni’r gofynion o ran hygyrchedd, cysylltwch â:

smallsystemssupport@justice.gov.uk  

Y Weithdrefn Orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi’n fodlon gyda’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni’n bersonol

Os ydych angen gwybodaeth sydd ar y wefan hon mewn fformat arall megis ar ffurf PDF hygyrch, print bras, fformat hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu Braille;

  • Cysylltwch â’r Swyddfa Orfodi a restrir ar yr hysbysiad o ddirwy.
  • Defnyddiwch y gwasanaeth Dod o hyd i Lys neu Dribiwnlys ar GOV.UK i ddod o hyd i wybodaeth fel;
    • cyfeiriad
    • manylion cyswllt
    • oriau agor
    • gwybodaeth am yr adeilad e.e. mynediad i bobl anabl neu barcio

  • Ffoniwch Desg Gymorth Gwasanaethau Digidol a Thechnoleg GLlTEM ar;
    0203 989 6060

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon


Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Gyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfiaeth

 

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 a hynny oherwydd yr achosion o beidio â chydymffurfio a nodir isod.

Mae darllenwyr sgrin yn sylwi ar allweddau nad ydynt yn ddisgrifiadol. Nid yw’r rhai yn ein gwasanaeth yn ddigon disgrifiadol a gallai beri camddealltwriaeth i’r defnyddiwr.

Lle bo’r Gymraeg yn cael ei defnyddio, nid yw wedi’i gosod yn gywir ac felly efallai ni fydd rhai technolegau cynorthwyol yn ei deall.

Ar gyfer cyferbyniad nad yw’n ymwneud â thestun, mae 2 achos yn y gwasanaeth lle nad yw’r lliw a ddefnyddir i ddangos elfen sy’n destun ffocws  yn bodloni’r gymhareb a ddisgwylir i fodloni WCAG 2.1. Mae’r cyferbyniad rhwng yr amlinelliad a’r cefndir yn bodloni’r cyferbyniad 3:1 ac fe’i defnyddir ym mhob elfen. Bydd hyn yn sicrhau y gall defnyddwyr sydd angen yr eglurhad hwn ei adnabod yn hawdd.

Mae 2 achos lle nad yw’r cyferbyniad lliwiau yn bodloni’r gofynion a gall beri trafferth i ddefnyddwyr sydd â nam ar y golwg neu sy’n lliwddall.

Mae darllenwyr sgrin yn ddibynnol ar benawdau clir a chyson ac rydym wedi canfod penawdau afresymegol pan ofynnir i ddefnyddiwr gadarnhau eu manylion manwl.

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym wedi mynd i'r afael â'r materion hygyrchedd a amlygwyd mewn archwiliad hygyrchedd annibynnol gan drydydd parti.

Ceir copi o’r adroddiad a’i argymhellion ar ddiwedd y

datganiad hwn, ar ffurf ffeil PDF.

Rydym eisoes yn gweithio ar y problemau hygyrchedd a amlygwyd

mewn archwiliad hygyrchedd annibynnol gan drydydd parti.

Ceir copi o’r adroddiad a’i argymhellion ar ddiwedd y

datganiad hwn, ar ffurf ffeil PDF.

Rydym yn gweithio gyda Barclaycard i uwchraddio’r tudalennau talu i fersiwn mwy modern a hygyrch.

Sut rydym wedi profi’r wefan hon?

 

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar yr 16eg o Fedi 2020. Cynhaliwyd y prawf gan Digital Accessibility Centre (DAC).

Bu inni ddefnyddio’r dull hwn i benderfynu ar sampl o dudalennau i’w profi;

  • Atodiad III yn yr adroddiad prawf hygyrchedd llawn, y mae dolen iddo isod.

Gallwch ddarllen yr adroddiad prawf hygyrchedd llawn yma;

MOJ - Pay a court fine DAC Accessibility Report WCAG 2.1 September 2020.pdf

Profwyd y tudalennau taliadau Barclaycard ar 29 Mehefin 2021. Cynhaliwyd y prawf gan Digital Accessibility Centre (DAC).

Cafodd fersiwn 15 o’r feddalwedd adnabod llais Dragon ei ddefnyddio ar Internet Explorer a Google Chrome.

Gallwch ddarllen y prawf taliadau Barclaycard yma:

MOJ Pay a Court Fine - Payments pages - Accessibility brief report.pdf

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Cafodd y datganiad yma ei ddiweddaru ym mis Chwefror 2023.